Categories
News

Taith Eglwys Agored ☩ 7/5/23 ☩ Open Church Walk

Mynwent Llaniestyn ☩ Llanddona LL58 8YG ☩ Llaniestyn Cemetery

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Sgroliwch ⬇️ neu cliciwch yma am y testun yn y Gymraeg 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Llaniestyn near Llanddona ☩ Open Church #24

Join us on Sunday 7 May at 10am as we go for a gentle walk around Llaniestyn, near Llanddona, Anglesey. We begin at the car park of the cemetery next to St Iestyn’s Church, Llanddona (LL58 8YG).

We will walk at a gentle pace and pause along the way to be still, to reflect and to enjoy our surroundings. There will be plenty of opportunity to chat. As an added bonus there will be some cake when we get back to the car park, so bring a flask or a drink with you, if you wish!

The walk is suitable for all ages: children and families are particularly welcome as are doggies, although they will need to be kept on a lead. This route may not be suitable for buggies and pushchairs. Stout shoes and a coat are recommended. This is one of a number of Open Church events in the Bro Seiriol area, so if you can’t make this one then do look out for others in the coming weeks and months. If you would like to join us, then please do come along. If you would like us to keep in touch with news about future Open Church events, then please sign up for our emails. We look forward to seeing you on Sunday 7 May at 10am at the car park of the cemetery next to St Iestyn’s Church, Llanddona (LL58 8YG).

Llaniestyn ger Llanddona ☩ Eglwys Agored #24

Ymunwch â ni fore Sul 7 Mai am 10yb wrth i ni grwydro o gwmpas Llaniestyn ger Llanddona, Ynys Mon. Dechreuwn ym maes parcio y fynwent wrth ochr Eglwys Iestyn Sant, Llanddona (LL58 8YG).

Byddwn yn cerdded yn hamddenol ac yn oedi ar hyd y ffordd i fod yn llonydd, i fyfyrio ac i fwynhau ein hamgylchedd. Bydd digon o gyfle i sgwrsio. Fel bonws ychwanegol bydd rhywfaint o gacen pan fyddwn yn dychwelyd i’r maes parcio, felly dewch â fflasg neu ddiod gyda chi, os dymunwch!

Mae’r daith gerdded yn addas ar gyfer pob oedran: mae croeso arbennig i blant a theuluoedd yn ogystal â chŵn, er y bydd angen eu cadw ar dennyn. Mae’n bosib na fydd y llwybr yn addas ar gyfer bygis y tro hwn. Argymhellir esgidiau cadarn a chôt.

Dyma un o sawl ddigwyddiad Eglwys Agored yn ardal Bro Seiriol, felly os na allwch chi ddod y tro hwn, edrychwch allan am eraill yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Os hoffech ymuno â ni, yna dewch draw. Os hoffech i ni gadw mewn cysylltiad â newyddion am ddigwyddiadau Eglwys Agored yn y dyfodol, tanysgrifiwch i’n hebyst ni.

Edrychwn ymlaen at eich gweld bore Sul Sul 7 Mai am 10yb ym maes parcio y fynwent wrth ochr Eglwys Iestyn Sant, Llanddona (LL58 8YG).